Abersoch Beach
Abersoch Cottages Home PageSelf Catering Holiday HomesHotelsBed and BreakfastCaravan and Camping SitesRestaurants and CafesPen Llyn GuideContact Us 
Click here for English

G?YL YN DYCHWELYD I BEN LL?N

Gwyl Pentre Coll (Lost Village Festival), Felin Uchaf, Rhoshirwaun 3pm-9pm - Saturday 27 June 2009

 

G?YL YN DYCHWELYD I BEN LL?N


Yn dilyn llwyddiant G?yl Pentre Coll y llynedd, mae'r trefnwyr yn falch o allu datgan y bydd yr ?yl yn dychwelyd i Felin Uchaf, Rhoshirwaun am yr eildro. Unwaith eto, bydd yr ?yl yn rhoi cyfle i bobl o bob oed fwynhau cerddoriaeth gyfoes yn awyrgylch awyr agored unigryw t? crwn Oes Haearn y ganolfan.

Mae'r digwyddiad eisoes yn magu enw da ac yn hawlio'i le ar y calendr adloniant am yr haf. Y llynedd mynychodd dros 150 o bobl yr ?yl a phrofwyd bod diwrnod gwych i'w gael yn ardal os cewch gyfuniad o adloniant difyr, prisiau rhesymol a lleoliad godidog.

Mae arlwy gerddorol drawiadol wedi cael ei threfnu gan y ddau drefnydd, Dilwyn Llwyd a Gethin Evans, y ddau yn ffigurau amlwg yn y sin cerddorol Cymreig. O'r cawr Tecwyn Ifan i'r ffefrynnau lleol Bob Delyn a Steve Eaves ac o Aron Elias i Mr Huw, bydd rhywbeth i bawb yn yr ardal, a dylai'r digwyddiad ddenu torf o rannau eraill o Gymru hefyd.

Meddai Dilwyn Llwyd: "Pan aethon ni ati i drefnu'r ?yl y llynedd roedd gen i deimlad ym mêr fy esgyrn bod 'na alw am ddigwyddiad amgen fel G?yl Pentre' Coll yn ystod y dydd, lle nad oes unrhyw wahaniaethu o safbwynt oedran na chwaeth gerddorol. Mi ge's i wefr enfawr o weld cymaint o bobl yn dod draw'r llynedd, yn aros drwy'r pnawn ac yn ymlacio yn yr awyrgylch braf. Roedd hwn o ddifri yn un o uchafbwyntiau haf 2008 i fi a dwi'n edrych 'mlaen yn arw i gael ailadrodd y llwyddiant eto eleni."

Meddai Gethin Evans, ail hanner y tîm: "Mae'r t? crwn yn Felin Uchaf yn lleoliad arbennig ac yn hollol wych ar bnawn o haf. Mae 'na hen ddigon o ddigwyddiadau gyda'r nos yn cael eu cynnal yn yr ardal ar gyfer mathau penodol o gynulleidfa, felly 'rydan ni isio rhoi cyfle i deuluoedd a phobl o bob oed gael clywed rhywfaint o'r dalent gerddorol wych sydd gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydan ni'n gobeithio'n fawr y bydd pobl yn gwneud diwrnod ohoni."

Aeth Dilwyn ymlaen i egluro: "Rydan ni jyst eisiau i bobl gael pnawn grêt - a rhesymol ei bris - ac rydan ni'n hollol hyderus mai dyna gaiff pawb. Mi fydd y gerddoriaeth a'r lleoliad yn ffantastig ac felly mi edrychwn ymlaen at groesawu pawb draw i ?yl Pentre' Coll eto eleni."

G?yl Pentre Coll, Felin Uchaf Rhoshirwaun, 3pm-9pm - Sadwrn 27 o Fehefin 2009

 

 


Lein-yp
Steve Eaves
Yucatan
Aron Elias
Tecwyn Ifan
Endaf Presley
Gwilym Morus
Bob Delyn
Mr Huw
Dafydd Davies Hughes
Sweet Baboo
John Lawrence
Fuzzy Felt
Dau Gowboi
Nia Morgan
Dyl Mei

Lle: Felin Uchaf, Rhoshirwaun, Pwllheli, Gwynedd, Wales, LL53 8HS
Pryd: 3pm-9pm - 3pm-9pm - Sadwrn 27 Fehefin 2009
Pwy: Pawb o bob oed
Faint: £15
Ticedi: Ar y giat
Arall: Bydd lluniaeth ar werth ar y safle, ond mae croeso hefyd i bobl ddod â'u bwyd a'u diod eu hunain
Felin Uchaf:

Mae Canolfan Rhoshirwaun wedi ei lleoli ar lôn Nefyn/Sarn - Aberdaron (B4431). Mae Felin Uchaf filltir cyn Aberdaron. Gwyliwch allan am yr arwyddion arbennig!

http://www.felinuchaf.org/